Ffeithiau diddorol am faint a hyd

Ffeithiau diddorol am faint a hyd

Ffeithiau diddorol – Maint a Hyd. A wyddech chi...? 1. Mae mwy na 246,935 o filltiroedd o ffyrdd yn y DU – pe baent yn cael eu gosod benben, gallech yrru i’r lleuad arnynt.  2. Mae mwy na 10,000 o filltiroedd o reilffyrdd yn y DU – pe baent yn cael eu gosod benben, gallech fynd ar y trên o Lundain i Adelaide yn Awstralia.  3. Pont Humber, sy’n 2.2km o hyd, oedd y bont grog un rhychwant hiraf yn y byd am 17 o flynyddoedd ar ôl iddi gael ei hadeiladu.  4. Mae 6,546 o dyrbinau gwynt yn y DU, ac maent yn cynhyrchu 13 gigawat o drydan, sef y mwyaf yn Ewrop.  5. Southend – sy’n ymestyn 1.34 milltir i Aber Afon Tafwys, yw’r pier pleser hiraf yn y byd.  6. Y draffordd hiraf yn y DU yw’r M6, sy’n ymestyn o Gyffordd 19 ar yr M1 ger Rugby i Gretna a’r A74(M) ger yr Alban.  7. Y ffordd sengl hiraf yn y DU yw’r A1, sy’n ymestyn 410 o filltiroedd o Gaeredin i Lundain.  8. Yr ardal adeiledig fwyaf gogleddol yn y DU yw Skaw, ar Ynysoedd Shetland. Mae’n agosach at Norwy na Chaeredin.

Diolch am ymweld ag Am Adeiladu!

Ydych chi wedi eich ysbrydoli i weithio yn y diwydiant adeiladu?

Iawn Dim o gwbl

Llongyfarchiadau!

Rydych gam yn agosach at yrfa mewn adeiladu.

Cau
Dyluniwyd y wefan gan S8080