Mae arnom angen mwy o fenywod yn y diwydiant adeiladu. Gyda 300,000 o gartrefi newydd i'w hadeiladu bob blwyddyn ac angen mwy na miliwn o weithwyr ychwanegol erbyn 2020, mae arweinwyr y diwydiant adeiladu'n gwybod bod yn rhaid iddynt ddenu cynifer o fenywod â phosibl.

Mae cynnydd diweddar wedi bod yn dda. Disgwylir i fenywod gynrychioli mwy na chwarter y gweithlu adeiladu erbyn 2020, sy'n fwy na'r lefel bresennol, sef tua 14%. Mae cyflogau'n codi i fenywod sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu hefyd, ac mae cyfran y menywod mewn rolau uwch bron wedi treblu ers 2005.

Os yw arbenigwyr yn gywir y gallai menywod gynrychioli hanner y gweithlu newydd cyn bo hir, mae'n rhaid croesawu hyn fel carreg filltir bwysig mewn hanes hir lle mae menywod wedi gorfod brwydro fesul tipyn am gydnabyddiaeth a chydraddoldeb ym mhob rôl - fel dylunwyr, penseiri, peirianwyr a gweithwyr adeiladu, yn ogystal â defnyddwyr lleoedd, adeiladau, sefydliadau a'r amgylchedd adeiledig ei hun.

Penseiri arloesol a oedd yn fenywod

Mae'n drawiadol bod y fenyw gyntaf y ceir cofnod ohoni yn hanes Prydain yn arwain prosiectau adeiladu, yr Arglwyddes Anne Clifford (1590–1676), wedi dangos dewrder a thaerni anhygoel i gael yr hyn roedd yn ei haeddu'n deg.

Treuliodd lawer o'i bywyd yn brwydro'n ystyfnig mewn achos cyfreithiol hirfaith i ennill yn ôl ei hystadau teuluol sylweddol, a adawyd i'w hewythr yn ewyllys ei thad ar ôl ei farwolaeth ym 1605. Ar ôl 44 o flynyddoedd, daeth i'w meddiannu o'r diwedd a dechreuodd raglen wella a mwyhau sylweddol ar eglwysi a'i phum castell yn Swydd Efrog a Cumbria.

Ond credir mai'r fenyw gyntaf a oedd yn bensaer a luniodd ei dyluniadau ei hun yw'r aristocrat Elizabeth, yr Arglwyddes Wilbraham (1632-1705). Dyluniodd dai godidog i'w theulu, megis Parc Weston yn Swydd Stafford ac, yn ôl un ddamcaniaeth, gall fod wedi cyfrannu at hyd at 400 o adeiladau eraill, gan gynnwys 18 o eglwysi yn Llundain a briodolir yn swyddogol i Christopher Wren.

Gan nad oedd modd i fenywod gael rolau proffesiynol ar y pryd, yn ôl pob tebyg trodd at ddefnyddio dynion a oedd yn benseiri i gyflawni ei chynlluniau iddi ar y safle – mae'n bosibl mai un o'r rhain oedd Wren, a gall fod wedi datblygu llawer o'i syniadau diweddarach drwy ddefnyddio ei dylanwad hi.

Bu'n rhaid aros tan 1898 cyn i'r fenyw gyntaf gael cydnabyddiaeth broffesiynol lawn fel pensaer, pan dderbyniwyd Ethel Charles (1871–1962) i Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA). Fodd bynnag, nid oedd hyn yn golygu y rhoddwyd comisiynau iddi ar gyfer prosiectau mawr, a oedd yn dal i gael eu rheoli gan ddynion.

Yn lle hynny, roedd yn gweithio ar wella bythynnod llafurwyr, fel arfer gyda'i chwaer, Bessie, sef yr ail fenyw erioed i fod yn aelod o RIBA. Erbyn hyn, ystyrir bod ei dyluniadau'n ddatblygiad sylweddol o'r Hen Ddull Seisnig tuag at y mudiad gardd-ddinasoedd.

Adeiladau a mannau gwell

Er bod y proffesiwn wedi bod ar gau iddynt ers amser maith, llwyddodd menywod i wneud gwelliannau pwysig yn y ffordd mae ein hadeiladau a'n mannau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u defnyddio.

Er enghraifft, arweiniodd safbwyntiau Florence Nightingale (1820-1910), a chwyldrodd y byd nyrsio a gosod safonau newydd o ran trugaredd ym maes gofal cleifion, at syniadau newydd am gynllun ysbytai.

Galwodd am systemau goleuo ac awyru gwell, a threfn wardiau i leihau lledaeniad clefydau heintus, sef syniadau a fabwysiadwyd yn uniongyrchol ym 1868 yn Ysbyty St Thomas yn Llundain (lle sefydlodd ysgol nyrsio broffesiynol gyntaf y byd) ar gyfer ei adeiladau ‘pafiliwn’ newydd, a boblogeiddiwyd wedyn mewn ysbytai ledled y byd.

Cymdeithas fwy cyfartal

Wrth i fenywod ennill mwy o ryddid ac annibyniaeth, roedd yn rhaid iddynt newid yr amgylchedd adeiledig ar gyfer eu hanghenion nhw.

Roedd hi'n anodd i'r ffeminyddion a'r swffragwyr cynnar ddod o hyd i le diogel i gyfarfod hyd yn oed. Fel y dywedodd yr ymgyrchwr Ray Strachey (1887–1940) yn ddiweddarach, “the very existence of a committee of women was a startling novelty”. Roedd yn rhaid iddynt drefnu ymgyrchoedd a phrotestiadau o gartrefi preifat.

Roedd rhoddion gan gymwynaswyr yn galluogi menywod i gymdeithasu, ffurfio cymdeithasau a chreu sefydliadau, megis Cymdeithas Llundain a Chenedlaethol dros Wasanaeth Menywod a oedd, yn y pen draw, yn meddu ar adnoddau i gomisiynu ei hadeilad ei hun yn San Steffan, sef Neuadd Millicent Fawcett, a enwyd ar ôl ei harweinydd. Daeth ei llyfrgell yn sylfaen ar gyfer Llyfrgell y Menywod heddiw, sydd bellach yn Ysgol Economeg Llundain.

Ysgolion a phrifysgolion

Roedd menywod cyffredin wedi'u cau allan o addysg ffurfiol i raddau helaeth tan 1870, pan oedd pob plentyn rhwng 5 a 12 oed i fod i gael addysg. Hyd at hynny, roedd yn dibynnu ar ddyngarwyr fel Angela Burdett-Coutts (1814-1906), a gefnogodd y gwaith o adeiladu cannoedd o Ysgolion Carpiog, a fwriadwyd ar gyfer y plant tlotaf.

Y farn gyffredinol oedd nad oedd addysg ac ymarfer corff yn addas i ferched yn yr un modd â bechgyn. Aeth addysgwyr megis Frances Mary Buss (1827–1894) ati i unioni hyn, gan agor ysgol uwchradd i ferched yn Llundain yn 1850, a ddaeth yn Ysgol Golegol Gogledd Llundain a'r model ar gyfer llawer o'r rhai a ddaeth yn ei sgil. Yn fenyw hynod ddeallus, bathodd y term Saesneg ‘headmistress’ a hi oedd cymrawd benywaidd cyntaf y sefydliad sydd bellach yn cael ei adnabod fel y Coleg Addysgu Siartredig.

Cymerodd fwy fyth o amser i fenywod gael lleoedd yn y brifysgol. Roedd y diwygwyr Emily Davies (1830-1921) a Barbara Bodichon (1827-1891) yn mynnu’r hawl i fenywod sefyll arholiadau ac ennill graddau. Ym 1869, sefydlwyd coleg newydd ganddynt mewn arddull brics coch Fictoraidd mawreddog ar gyrion Caergrawnt, un o'r colegau preswyl cyntaf yn Lloegr i fenywod. Coleg Girton oedd hwn yn ddiweddarach – ond ni ddaeth yn rhan o Brifysgol Caergrawnt yn swyddogol tan i fenywod gael eu derbyn i'r brifysgol yn llawn ym 1948.

Ar grwydr

Gyda mwy o ryddid a mwy o incwm gwario, roedd menywod cefnog yn cael mwy a mwy o gyfleoedd i fentro o'r cylch domestig i'r cyhoedd – ac estyn eu cyhyrau economaidd yn y siopau adrannol a'r siopau dillad newydd a oedd yn codi mewn trefi a dinasoedd. Daeth hyn law yn llaw â seilwaith estynedig – trafnidiaeth gyhoeddus i'w symud a lleoedd i fwyta ac yfed.

Roedd ystafelloedd te wedi'u hanelu at fenywod yn benodol, gan efelychu cysuron a natur bersonol y cartref mewn mannau cymdeithasol barchus lle gallent gwrdd heb ddyn i'w hebrwng. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd cannoedd ohonynt ledled y wlad.

Ond ble y gallent fynd petaent yn cael eu dal mewn angen yn gyhoeddus? I ffeminyddion cynnar, roedd darpariaeth cyfleusterau toiled gwell bron mor bwysig â chael y bleidlais, gyda'r Gymdeithas Glanwaith Menywod yn ymgyrchu'n galed o'r 1850au ymlaen.

Roedd yn anodd goresgyn y dicräwch Fictoraidd ynghylch cyrff menywod – ond yr un fantais oedd bod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried cyfleusterau tŷ bach yn newyddbeth technolegol trawiadol o'r oes fodern ac roeddent o blaid adeiladu mwy ohonynt. Felly, ym 1884, agorodd y Ladies’ Lavatory Company ei gyfleuster cyhoeddus cyntaf i fenywod yn Oxford Circus.

Gwella tai

Byddai dinasoedd Prydain yn llawer gwaeth eu byd oni bai am ddiwygwyr cymdeithasol ac ymgyrchwyr di-ofn, megis Octavia Hill (1838–1912), a helpodd i sefydlu'r Ymddiriedaeth Genedlaethol. Roedd Hill wedi sylweddoli nad oedd y rhaglenni tai cymdeithasol bwrdeistrefol yn achub y tlodion trefol rhag amodau byw erchyll a landlordiaid didostur.

Datblygodd system lle byddai buddsoddwyr cefnog yn ei helpu i brynu tai syml i'r tlawd yn gyfnewid am elw 5% ar eu buddsoddiad. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i'w thenantiaid newydd dalu rhent, felly roedd yn rhaid iddynt weddnewid eu bywydau er mwyn sicrhau y gallent ei fforddio. Helpodd ei byddin o wirfoddolwyr nhw i wneud gwaith atgyweirio, dod o hyd i waith, dysgu sgiliau newydd a gwella eu tynged yn gyffredinol.

Nid oedd ganddi amheuaeth am rôl menywod yn hyn. “Ladies must do it, for it is detailed work; ladies must do it, for it is household work; it needs, moreover, persistent patience, gentleness, hope,” meddai.

Roedd yn ystyried bod mannau agored, gerddi, coed a blodau'n hanfodol ar gyfer yr hyn rydym bellach yn ei adnabod fel “ansawdd bywyd”. Ymgyrchodd yn llwyddiannus i gadw Hampstead Heath a Parliament Hill Fields – bellach ymysg mannau gwyrdd anwylaf Llundain – heb eu datblygu; ac, yn lle'r rhandiroedd tai digysur, di-goed, creodd fythynnod gardd yn y ddinas fel canolfannau ar gyfer cymuned iach.

Gardd-ddinasoedd a thu hwnt

Gwelwyd dylanwad Hill yn ddiweddarach yn y mudiad gardd-ddinasoedd, a hynny i raddau helaeth drwy Henrietta Barnett (1851–1936), a oedd wedi gweithio iddi ar un adeg ac wedi helpu i gynllunio Maestref Gerddi Hampstead ym 1904.

Dilynodd eraill, megis Mary Higgs (1854–1937), a aeth mewn cuddwisg i ddeall y problemau a oedd yn wynebu menywod crwydrol, a chreu gerddi, mannau cyhoeddus gwell a thai llety menywod yn Oldham; ac Elizabeth Scott, a fwriodd ei phrentisiaeth ar Ddinas-ardd Welwyn cyn iddi ddylunio Theatr Goffa Shakespeare arobryn yn Stratford-upon-Avon ym 1926.

Roedd cynorthwy-ydd Scott, Judith Ledeboer (1901–1990), yn aelod o bwyllgor tai dylanwadol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn cynghori awdurdodau lleol ar y gwaith o ailadeiladu Prydain. Mewn gwirionedd, ymgymerodd menywod fel Ledeboer a'r modernydd Jane Dew (1911–1996) â rolau hanfodol wrth ailadeiladu Prydain ar ôl y rhyfel, gan greu trefi newydd megis Hemel Hempstead a Harlow, a phwyso am gartrefi a thai cyngor â mwy o le a chyfleusterau storio gwell.

Cymerwch ran

Mae stori menywod yn y diwydiant adeiladu yn un sy'n dangos bod brwydro am gymdeithas well, fwy cyfartal yn gallu creu gwelliannau dwfn a pharhaol i'n hamgylchedd adeiledig – a'r gymdeithas y mae'n ei gwasanaethu.

Mae angen i hyn barhau – ac ni fu adeg well erioed i fenywod ymuno â'r diwydiant.

Dysgwch am yr ystod enfawr o rolau a chyfleoedd gyrfa adeiladu sydd ar gael yn y sector gyda’n Porwr Gyrfaoedd neu rhowch gynnig ar ein cwis personaliaeth er mwyn cael syniad gwell o beth fyddai’n addas ar eich cyfer chi.